Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth
Hydref 2018
Ar 9 Hydref 2018 cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth.
Yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(ii), cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgorau gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 14 Rhagfyr 2018.